Arnewid adeilad rhestredig Gradd II
cadwriaeth
Ystad Bodorgan, Bodorgan, Ynys Mon
Adnewyddu neuadd eglwys
Un o adeiladau hanesyddol Caernarfon, Gradd rhestru ll, a adeiladwyd yn wreiddiol fel Ysgol Babanod ym 1836 i wasanaethu cymunedau tlotach Caernarfon. Rhoddwyd gais llwyddiannus i gronfa Dreftadaeth y Loteri ac fe ddechreuodd adnewyddu’r adeilad cyfan ym mis Hydref 2007.
Roedd y gwaith yn cynnwys adnewyddu y gorchudd to, ffenestri a drysau, strwythur y llawr a’r gwasanaethau gan gynnwys llwyfan, cyfleusterau cegin a thoiledau newydd. Cafwyd atgyweiriadau eu cario allan ar ffabrig yr adeilad yn cynnwys ail-bwyntio’r waliau cerrig allanol a creu mynediad a chyfleusterau i bobl anabl.
Yn ystod y broses adeiladu datgelwyd ffenestr eglwys wreiddiol a oedd wedi eu cuddio ers degawdau, ac fe mewnosodwyd ffenestr gwydr lliw newydd a gafodd ei gynllunio gan Meri Jones, artist gwydr lliw, yn dilyn cystadleuaeth gan blant yr ysgol lleol.